Ni yw Radio Beca. Chi. Fi. Unrhyw un a phob un sydd am ei chreu. A’i hail-greu. Fel pob agwedd ar fywyd cymdeithasol Cymraeg rhywbeth sy’n cael ei greu’n barhaus yw (a bydd) Radio Beca. Rhywbeth ry’ NI’n ei greu’n barhaus. Heb orfod dwyn perswâd ar bobol bwerus yng Nghaerdydd neu Fangor neu Gaernarfon.
Ac yn unrhyw ffurf neu siap hefyd. Nid un cyfrwng yw Radio Beca ond pa bynnag gyfrwng/gyfryngau sydd fwyaf addas ar y pryd – ffilm, facebook, Twitter, CD, DVD, YouTube, ffôn, i-pad, sefyll ar ben stôl a gweiddi, yn ogystal â’r bocs radio traddodiadol. Beth bynnag sy’n ein galluogi NI i rannu ein cwestiynau, pryderon neu gracrwydd yn ogystal â’n syniadau a’n galluoedd creadigol ac – yn arbennig – ein llwyddiannau a’n dathliadau. ... read more
Welcome to the new Streamitter website. We have improved the online radio experience for you. Enjoy listening to thousands of radios all over the world.
  2004 - 2025 Streamitter.com